Moctel Aeron Ysgafn

Ysgafn, llawn ffrwythau a ffrwydrad o flas, mae hwn yn ddelfrydol ar gyfer dechrau’r parti!

Yr hyn sydd ei angen:

  • Hanner leim ffres
  • 2 lwy de o siwgr brown 🥄
  • 100ml o sudd llugaeron 🥤
  • 50ml o sudd pîn-afal 🍍
  • Dŵr tonig neu lemonêd 🥤

Beth i’w wneud:

Cymysgwch y leim a’r siwgr brown. Ychwanegwch y gwahanol fathau o sudd, ysgydwch a’i dywallt dros iâ. Rhowch donig/lemonêd ynddo a lletem o leim fel garnais.

Mwynhewch!

Gadael Ymateb